Lle Dan Ni?
Mae Rheilffordd Ager Telford 20 i'r gorllewin o Wolverhampton yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
View this map on Multimap.com
Bird's Eye view on Multimap.com
Get directions on Multimap.com
Rhybudd - gweler y nodyn isod o dan 'Defnyddwyr Sat Nav'
Sbiwch ar yn dudalen 'Rhith-daith' a chynllunio eich ymweliad cyn i chi gyrraedd. (Cofiwch, mae'r lluniau ar y dudalen yma yn weddol fawr a bydd eisiau tipyn o amser i'w llwytho nhw i lawr!).
Ar Gludiant Cyhoeddus
Yn anffodus does 'na ddim llawer o gludiant cyhoeddus yn mynd i Rheilffordd Ager Telford. Fe gewch fanylion cludiant cyhoeddus yn Telford ar y Telford Travel Link
Ar y Tren
Mae prif orsaf reilffordd Telford 2.5 milltir o le dan ni. O'r orsaf reilffordd rhaid i chi fynd i Orsaf Bysiau Telford a newid bws. Er y gallech chi gerdded o'r orsaf, mae'n siwr, dydy'r ford ddim yn amlwg ac mae'n serth iawn.
Ar y Bws
Does dim gwasanaethau cyhoeddus dydd Sul a Gwyliau'r Banc yn syth i Horsehay. Ewch o orsaf bysiau Telford i orsaf bysiau Dawley tua 0.5 milltir i ffwrdd.
Ar y Ffordd
Dilynwch arwyddion i Telford ( M54 ) yna gadewch y draffordd ar Gyffordd 6 a dilynwch yr A5223 tuag at gyfeiriad Much Wenlock. Wrth y goleuadau traffig, oedd yn arfer bod yn gylchfan, ewch yn syth ymlaen. Nawr, dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i Reilffordd Ager Telford.
Defnyddwyr Sat Nav
Bydd defnyddio ein cod post swyddogol TF4 2NF yn eich arwain at leoliad tua hanner milltir i ffwrdd. Rhowch gynnig ar ddefnyddio TF4 2NG yn lle, a fydd yn mynd â chi heibio'r mynediad.
RHYBUDD
Yr ydym wedi cael ar ddeall, wrth ddefnyddio rhai systemau Sat Nav a phan ddefnyddir Multi Map,a gan ddibynnu o ba gyfeiriad y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael eich arwain i lawr lôn arw sydd heb wyneb arni. PEIDIWCH â mynd i lawr y lôn yma. Yn lle, trowch o amgylch, trowch i'r chwith wrth ddod allan o'r lôn ac i'r chwith wrth y gylchfan, yna dilynwch yr arwyddion brown.