Digwyddiadau ac Atyniadau 2012

I gael manylion amserau gweithredu a phrisiau mynediad Rheilffordd Ager Telford cliciwch yma.

Pob dyddiad a'r holl fanylion i'w cadarnhau'n derfynol

8 a'r 9 Ebrill Cwningen y Pasg

Cwningen y Pasg yng Ngorsaf Horsehay.

Wy Pasg am ddim i bob plentyn sy'n teithio ar y trên a bynsen groes am ddim i bob oedolyn sy'n teithio. Bydd Cwningen y Pasg yno.

Link to Buy your tickets on line, sorry, English only

Teulu £15.00
Oedolyn £6.00
Plentyn £4.00

17 Mehefin Sul y Tadau - Gyrru Tram Stêm

Ffotograff o 'Dad' ar tram

Oedolyn/Plentyn £ Manylion i'w cyhoeddi

Prisiau mynediad arferol yn gymwys i rai sydd ddim am ‘roi cynnig arni’
Teulu £12.00
Oedolyn £5.00
Plentyn £3.00

15 Gorffennaf Gala Modelau

Mae'r Gala Modelau yn prysur ddod yn un o'n digwyddiadau sefydledig ac mae'n sicr yn werth ymweld ag o.

Cewch ddisgwyl gweld arddangosfeydd Hornby Dublo, Triang Trains + Minic Motorway a Playcraft Trains, Ceir gan Matchbox, yn cynnwys y setiau Traffordd, a Lledo, Lines Bros Toys and Bears, ac amrywiaeth o fodelau masnachol, model ffair a thai Doliau.

Bydd y modelau rheilffyrdd arhosol yn cael eu harddangos a bydd Phoenix Engineering Society yn cyflwyno arddangosfa anferth o beirianneg modelau. Bydd bws o dras yn cynnig gwasanaeth gwennol i arddangosfa'r Lein Fach Gul yn y Park Hotel yng nghanol tref Telford. Bydd yn cael ei redeg gan y Telford Bus Group.

Bws 'treftadaeth' am ddim rhwng Rheilffordd Ager Telford a Sioe Rheilffordd Gul Telford Gallwch weld manylion yr arddangosfa ar eu gwefan.

Link to Buy your tickets on line, sorry, English only

Teulu £15.00
Oedolyn £6.00
Plentyn £4.00

26, 27 Awst Gwyl y Banc mis Awst.

Eleni, mae rhywbeth newydd ar y gweill – cadwch olwg am gyhoeddiad yn nes at yr amser.

Link to Buy your tickets on line, sorry, English only

Manylion i'w cyhoeddi
Teulu £
Oedolyn £
Plentyn £

Digwyddiadau'r Nadolig

Link to TSR Ticket Shop

Dydd Sadwrn 3, 10, 17 Rhagfyr
Dydd Sul 4, 11, 18 Rhagfyr
Oedolyn/Plentyn £ Manylion i'w cyhoeddi

Hysbyseb Dyddiau Siôn Corn, manylion yn unol â'r testun

Ewch ar y trên i ymweld â Santa yn ei groto.
Tocyn yn cynnwys anrheg neu luniaeth i oedolyn.

Siôn Corn yn ei Ogof

Photo © D Angell

Dylech gadw lle o flaen llaw (trwy lythyr yn unig cyn mis Hydref) oherwydd ein bod yn brysur iawn dros y Nadolig.
Mwy o fanylion ar dudalen ar wahan

'Siôn Corn' 2012.

Rheilffordd Lled Safonol

Mae 'na dros 30 o flynyddoedd erbyn hyn ers i beiriannau ager a pheiriannau diesel hanesyddol ymlwybro o Orsaf Spring Village i Orsaf Horsehay & Dawley, taith sydd bron yn filltir, yn mynd a'u teithwyr ar daith drwy hanes.

Gofal ! Tramiau!

Dewch yn ôl mewn amser i'r dyddiau pan oedd tramiau ager yn rhedeg ar ein strydoedd. Dewch ar ein tram lein gul, yr unig un o'i fath, yn arosfeydd tramiau Pool Street neu Simpson Street ar gyfer y daith fer ar hyd ymyl Horsehay Pool a'r lle Picnic.

Rheilffordd Fach

Dewch i ryfeddu at y peiriannau bychain a adeiladwyd gan y Phoenix Model Engineering Society wrth iddynt fynd a'u teithwyr am dro ar Reilffordd Fach Horsehay.

Rheilffordd Model

Mae'r bobl sy'n hoffi peiriannau llai fyth yn gallu ymweld a'n Rheilffordd Model Lled '00' sydd erbyn hyn yn ymestyn dros fwy na 320 o dr.sg. Bydd yr holl drenau bach yn mynd heibio yn swyno plant ac oedolion fel ei gilydd.

Am Dro o gwmpas y Safle

Rydym yn gallu trefnu i griwiau sy'n trefnu o flaen llaw fynd am dro o amgylch y safle gydag arweinydd ac ar daith i fyny'r lein ar nosweithiau yn yr Haf (os bydd gweithwyr ar gael).

Partis i'r Plant

Beth am roi'r pleser o barti ar ein rheilffordd i'ch plentyn chi?
Mae'r parti yn cynnwys:

  • Siwrne trên yn ôl. Bydd hyn ar y trên gwasanaeth; gwiriwch yr amserlen i weld os bydd yn un Stêm neu Disel.
  • Ymweliad â'r Rheilffordd Fodel.
  • Reid ar y tram stêm.
  • Bwyd parti, ag eithrio cacen ben blwydd (pob croeso i ddod ag un eich hun).
  • Parti yn Ystafelloedd Te y Ffwrneisiau.
  • Defnydd AM DDIM o'r safle i'ch parti.

Yn ystod y prif dymor (Pasg i fis Medi) rydym yn gallu cynnig partis i'r plant bob dydd Sul am £6.50 y plentyn yn cynnwys teithio ar y trên sydd mewn gwasanaeth a bwyd - o leiaf 8 o blan

Oedolion (taith yn unig) - un am ddim gyda phob tri o blant, fel arall £3. Rydym yn gallu darparu ar gyfer oedolion trwy drefniant, neu mae gwasanaeth caffi arferol ar gael.

Dim partion rhwng mis Tachwedd a'r Pasg. Ffoniwch i holi beth sydd ar gael, cadw lle ac ati.

Am fwy o fanylion galwch y

Pethau eraill i'w gweld

Cwmni Priodas yn cyrraedd Rheilffordd Ager Telford mewn Cerbyd Ager
  • Ystafell Aros - Arddangosfa o gasgliad o hen bethau'r rheilffordd.
  • Adran Chwarae'r Plant - Adran chwarae ddiogel wrth drac y tramiau
  • Lle Picnic - Gyferbyn ag adran chwarae'r plant - bwytewch eich bwyd tu allan
  • Caffi - Dewiswch rai o'n tameidiau a diodydd wedi eu paratoi o'r newydd

RhAT Dolenni gyda safleoedd

Mae hawlfraint Rheilffordd Ager Telford ar bob testun a llun oni bai fod nodyn i'r gwrthwyneb.

Weather Forecast: Offsite link to full forecast

Rheilffordd Ager Telford
Digwyddiadau
Diweddarwyd diwethaf
Wed, 18 Jan 2012

Link to Buy your tickets on line, sorry, English only llun logo Rheilffordd Ager Telford